|
ENGLISH HERE Ar ol wythnos anodd i dim y Crusaders daeth hyder pan oeddent ei angen fwyaf pan drechwyd Salford City Reds ar brynhawn mewn y tywydd ofnadwy ar Gae’r Bragdy ddydd Sadwrn diwethaf.
Er mai dawns i’r gân boblogaidd Singing in the Rain oedd y rheswm dros George Sampson i ennill Britain’s Got Talent, ymddangosiad yn unig a gafwyd ganddo oherwydd y tywydd; ac roedd yn rhaid i’w gefnogwyr fodloni ar luniau a llofnod yn hytrach nag ei wylio yn dawnsio. Cynhaliwyd County Dance Live cyn prif ornest y Crusaders, lle’r oedd enillwyr o ysgolion yr ardal yn perfformio dawnsfeydd i ddiddanu’r dorf.
Roedd hwb pellach i dim John Dixon ar ôl iddynt ddod trwy dwy gem erbyn hyn heb anafiadau i aelodau y tim, sydd yn golygu y bydd yna drafferthion dewis i Dixon wrth iddo ddewis y tim i wynebu Hull FC ddydd Gwener 17 Gorffennaf (cic gyntaf 8.00pm yn KC Stadium yn Hull).
Dywed John Dixon am y fuddugoliaeth “Roedd balchder gennyf dros y tim yma ers y diwrnod cyntaf. Y cymeriad a ddangoswyd gan y chwaraewyr yn ystod y gem oedd yr uchafbwynt i mi. Mae gennynt nodweddion da nad ydyw’n mynd i ffwrdd.”
Credodd Shaun McCrae, prif hyfforddwr Salford City Reds fod yna bosibilrwydd i’r tim o Benybont i fod yn wir fygythiad i holl dimau o fewn y Super League.
Yn sicr, y tim gorau wnaeth ennill mewn amodau difrifol ar Gae’r Bragdy, er iddynt fod 12-0 i lawr ar ddechrau’r gem.
Bydd gem gartref nesaf y Crusaders yn erbyn Bradford Bulls ar ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf (cic gyntaf 6.00pm). A all y Crusaders gyflawni’r dwbl dros un o enwau mawrion y Super League? Amser a ddengys. Dewch i gefnogi bechgyn y Crusaders yng Nghae’r Bragdy! CELTIC
CRUSADERS Tries: Smith, Chalk, Withers, Blackwood. Goals: Quinn 4/4 Drop-goals: Smith
Tries: Adamson, Littler Goals: Wilshere 2/2 |



















