More positioning possibilities can be achieved with the following samples Attached to a Table Cell and Positioned with Offsets

  Celtic Crusaders 6 Warrington Wolves 22
engage Super League 2009 Gem 19 - Gae'r Bragdy, Pen-y-Bont - Nos Sadwrn 4th July 2009
 

ENGLISH HERE

Cafodd Celtic Crusaders frathiad gan fleiddiau Warrington wrth i'r ymwelwyr brofi'n fuddugoliaethus ar Gae'r Bragdy ddydd Sadwrn ddiwethaf.  Yn wir, fe ddaeth yn agos i dim John Dixon i orffen y gem yn ddi-sgor ddwy achlysur o'r bron.  Achubwyd y Crusaders gan gais Luke Dyer yn hwyr yn yr ail hanner gyda'r cais wedi ei throsi'n llwyddiannus gan Mark Lennon.

Fe sgoriwyd unig gais yr hanner cyntaf gan Jon Clarke o Warrington, cyn i Ben Harrison gymryd y bel dros y linell gais ac ychwanegwyd dwy arall gan Richie Mathers i dynhau grym Warrington ar yr ornest. 

Yn ol John Dixon "Enillodd y tim gorau yn y diwedd.  Meddyliais ein bod yn llawn ysbryd ac agwedd da ond nid oedd yna unrhyw ddienyddiad na cherddediad yn ein chwarae pan ddaeth i sgorio pwyntiau.  Roedd Warrington yn hynod o dda pan yn dal y bel."

Bydd gem nesaf y Crusaders yn profi'n hynod o agos wrth i Salford City Reds ymweld a Chae'r Bragdy ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf 2009; gyda'r gic gyntaf am 6.00pm.

Cyn y gem cynhelir rownd derfynol rhaglen rygbi 13 ar gyfer ysgolion cynradd.  Y mae hyn yn cael ei ddathlu gyda 'Finals Day' sydd yn cymryd lle ar Gae'r Bragdy o 2.30pm ymlaen; y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau cyn i'r Crusaders herio Salford yng nghynghrair y Super League.  Cymerwyd rhan gan 48 o ysgolion cynradd yn cynnwys ysgolion o Rhondda Cynon Taf, Sir Penybont a Gorllewin Cymru.  Hyfforddwyd rhan fwyaf o'r ysgolion gan aelodau o dim cyntaf Celtic Crusaders ac wedi cymryd rhan mewn gwyl ar Gae'r Bragdy cyn gwylio gem fyw o Super League.

Bydd George Sampson, enillydd 'Britain's Got Talent' yn 2008, yn dawnsio cyn y gem yn erbyn Salford a hefyd bydd yn dawnsio yn ystod hanner amser.  Y mae'r tocynnau yn gwerthu'n gyflym ond mae yna docynnau ar ol.  Os hoffech chi fod yn rhan o'r diwrnod arbennig iawn yma ym Mhenybont, cysylltwch a'r clwb ar 01656 658535 neu ewch i www.crusadersrfl.com neu hyd yn oed ar Facebook www.facebook.com/CelticCrusaders am fwy o wybodaeth.  Dewch i gefnogi Super League yn Ne Cymru a cefnogwch y bechgyn! 

Crusaders: Marshall Chalk; Luke Dyer, Steve Tyrer, Mark Dalle Cort, Anthony Blackwood; Mark Lennon, Jace Van Dijk; Ryan O'Hara, Lincoln Withers, Mark Bryant, Jordan James, Chris Beasley, Peter Lupton. Subs: Ben Flower, Jason Chan, Neil Budworth, Geraint Davies.

 

Tries: Dyer (77)

Goals: Lennon 1/1

 

Wolves: Richie Mathers; Chris Hicks, Chris Bridge, Matt King, Chris Riley; Simon Grix, Michael Monaghan; Adrian Morley, Jon Clarke, Paul Wood, Louis Anderson, Ben Westwood, Ben Harrison. Subs: Paul Johnson, Vinnie Anderson, Garreth Carvell, Mike Cooper.

 

Tries: Clarke (12), Harrison (52), Mathers (57, 65)

Goals: Hicks 3/4

 

Half-time: 0-6

Attendance: 3,231

Referee: Thierry Alibert (France)

Back to 2009 Results

Next Report

Previous Report